Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

PAC(4)-05-11 - Papur 1

 

Gylch Gorchwyl

 

Cylch gwaith Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw ystyried y materion llywodraethiant ac atebolrwydd mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, gan gynnwys:

 

·         Cynghori’r Cynulliad ynghylch penodi archwilwyr i edrych ar gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru;

·         Ystyried amcangyfrif a chyfrifon blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru;

·         Ystyried materion llywodraethiant ac atebolrwydd Archwilydd cyffredinol Cymru;

·         Ystyried materion yn ymwneud ag enwebu unigolion i’w penodi i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru; ac

·         Ystyried unrhyw faterion eraill a gyflwynir iddo gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

 

Mae angen ystyried y rhan fwyaf o’r materion hyn yn ystod tymor yr hydref, pan ragwelir y bydd angen i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen gwrdd ddwywaith ar gyfartaledd. Ar adegau eraill, rhagwelir mai dim ond yn ôl yr angen y bydd angen iddo gwrdd, i ystyried unrhyw faterion a fydd yn codi mewn cysylltiad â llywodraethiant ac atebolrwydd.

 

Cyfnod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd blwyddyn 2011/12 y Cynulliad, a daw i ben ar 20 Gorffennaf 2012.

 

Aelodau Grŵp Gorchwyl a Gorffen trawsbleidiol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fydd:

 

Darren Millar AC (Cadeirydd)

Mike Hedges AC

Aled Roberts AC

Leanne Wood AC

 

Bydd Cadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn newid bob tymor.

 

O dan Reol Sefydlog 17.20 mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlir yn ffurfiol yn cael ei reoleiddio gan y Rheolau Sefydlog sy’n ymwneud â’r pwyllgor y mae’n is-bwyllgor iddo. Felly, bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cwrdd yn ffurfiol yn gyhoeddus (ac eithrio pan mae’n penderfynu, mewn sesiwn ffurfiol, i gwrdd yn breifat). Caiff unrhyw adroddiad a gaiff ei lunio gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus cyn ei osod gerbron y Cynulliad. Rhaid i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gymeradwyo’r adroddiad, neu ei gyfeirio yn ôl at y Grŵp Gorchwyl a Gorffen i wneud mwy o waith arno os na fydd yn ei gymeradwyo.